Cymdeithas Melinau Cymru • Welsh Mills Society
 Sain Ffagan 

Melin Wlân Esgair Moel, Sain Ffagan

Hanes

Mae'r adeilad hwn o Lanwrtyd ym Mhowys yn nodweddiadol o'r ffatrïoedd gwlân bychain oedd yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg. Byddai ffermwyr wedi dod â'u gwlân i'r felin i'w droi'n frethyn. Estynnwyd y felin, a adeiladwyd ym 1760, i gynnwys peiriannau newydd yn y 19eg ganrif, ac fe barhaodd i gynhyrchu tan 1947.

Byddai'r holl broses o gynhyrchu gwlân yn digwydd o dan yr un to, o liwio'r cnu i orffeniad y defnydd.

Symudwyd yr adeilad i'r amgueddfa ym 1949 ac fe'i hagorwyd i'r cyhoedd fel arddangosfa weithredol ym 1952.

Mae'r ddau wŷdd llaw yn dyddio o ganol y 18fed ganrif, ac fe'u newidiwyd yn wenoliaid fflei yn fuan wedi hynny. John Davies o Lanbrynmair wnaeth y peiriant nyddu, yr unig un o'i fath sy'n dal i weithio heddiw, tua 1830, a phrynwyd y peiriannau cribo yn ail-law ar yr un pryd o felin yn Swydd Efrog.

Gellir gweld yr olwyn ddŵr fewnol, sy'n pweru'r holl beiriannau, ar y llawr isaf wrth ochr y morthwylion pannu.

Mae'r felin yn dal i gynhyrchu siolau traddodiadol a charthenni Cymreig, a welir yn aml yn gorwedd ar y ffrâm deintur y tu allan.

Mae'r cynhyrchion ar werth.

i'r brig

Melin nesaf: Melin a Gwasg Seidr
Melin gynt: Tanerdy Rhaeadr Gwy
Gwybodaeth ynglŷn ag Ymweld â'r Amgueddfa

i'r brig
WMS Logo

 Melinau ar agor 
 Sain Ffagan 
Melin Bompren
Melin Lifio Ty'n Rhos
Tanerdy Rhaeadr Gwy

Melin Wlân Esgair Moel
ar y dudalen hon -
Hanes
i'r brig

Melin a Gwasg Seidr Melin Eithin

i'r brig

esgairm.m0c.html 2007/09/02 _____